Lynne Neagle AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
 SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru

27 Ebrill 2017

 

Annwyl Lynne

Papur Gwyn Bil y Diddymu Mawr

Yn dilyn ein trafodaeth am faterion gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y Fforwm Cadeiryddion ar 5 Ebrill 2017 ac yng ngoleuni penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Materion Allanol yn ei gyfarfod ar 3 Ebrill 2017, rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi am y gwaith y mae’r Pwyllgor Materion Allanol yn ei gynllunio mewn perthynas â Phapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr.

Rwyf hefyd yn ysgrifennu atoch i’ch gwahodd chi a’ch pwyllgor i gyfrannu at y gwaith hwn.

Mae Bil y Diddymu Mawr a dull gweithredu ehangach Llywodraeth y DU o ran  deddfu ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn cyflwyno rhai heriau sylweddol i’r Cynulliad a’i bwyllgorau.

Bydd goblygiadau sylweddol i’r Bil hwn yn ei ffurf derfynol o ran rôl y Cynulliad yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd a’i le yn nhrefn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig ei gyfle cyntaf, a gellid dadlau, ei gyfle gorau, i’r Cynulliad ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth.

 

 

Rwy’n gweld dwy agwedd allweddol ar y gwaith craffu hwn:

1.   Datganoli: sicrhau nad yw’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru yn cael eu hatal rhag cymryd rhan briodol yn y broses; a

2.   Cydbwysedd o rym gweithredol:  bod cydbwysedd priodol rhwng y pwerau a’r cyflymder sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru i gwblhau eu tasg ddeddfwriaethol â’r angen am oruchwyliaeth briodol gan y Cynulliad.

 

Er bod y Pwyllgor Materion Allanol wedi cael ei sefydlu gan y Cynulliad i gymryd yr awenau ar y materion hyn, cymaint yw maint y dasg o’n blaenau nes fy mod yn credu y bydd angen i’r rhan fwyaf o bwyllgorau’r Cynulliad chwarae rhan yn ymateb y Cynulliad. Byddwn yn gwneud y defnydd gorau o allu’r Cynulliad i ddylanwadu ar ffurf derfynol y ddeddfwriaeth drwy gydweithio a chydlynu ein gwaith lle bo hynny’n bosibl.

Byddwn yn croesawu eich barn ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr a dull deddfwriaethol ehangach Llywodraeth y DU o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma ein cylch gorchwyl:

Yng nghyd-destun Papur Gwyn Llywodraeth y DU, i asesu:

-   a ddiogelir rôl y Cynulliad ym mhroses ddeddfwriaethol gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac o ran craffu ar swyddogaethau gweithredol, yn y meysydd cymhwysedd datganoledig;

-   a ddilynir egwyddorion deddfu effeithiol;

-   a oes gan bobl, rhanddeiliaid a sefydliadau Cymru ddigon o gyfle i gyfrannu at y prosesau deddfwriaethol a sefydlir gan y Bil;

-   a yw’r Bil yn galluogi’r Cynulliad i arfer rheolaeth briodol dros y pwerau dirprwyedig a ddarperir gan y Bil; ac

-   a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigonol.

 

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol yn paratoi i gasglu tystiolaeth yn ystod hanner cyntaf tymor yr haf, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad yn gynnar ym mis Mehefin. Os hoffech ymateb i’r llythyr hwn, yna byddwn yn ddiolchgar o gael ymatebion erbyn dydd Gwener, 2 Mehefin 2017.

Rydym yn bwriadu parhau â’n gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth hon (a’r goblygiadau sydd iddi drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn dilyn hynny) pe bai Bil y Diddymu Mawr yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a byddaf yn ysgrifennu atoch eto pe bai’r amserlen yn hyn o beth yn dod yn fwy eglur.

Yn gywir


David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol